Grŵp Trawsbleidiol ar Nyrsio

Cofnodion cyfarfod 4 Mawrth 2014

 

Yn bresennol

 

Aelodau'r Cynulliad

Rebecca Evans (Cadeirydd)                Llafur Cymru

Jeff Cuthbert                                      Llafur Cymru

Kirsty Williams                                   Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Aled Roberts                                      Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Elin Jones                                           Plaid Cymru

 

Cyfarwyddwyr Nyrsio / Eraill

Helen Whyley                           Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru ar ran y Gweinidog

Rhiannon Beaumont-Wood      Cyfarwyddwr Nyrsio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ruth Walker                             Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Caerdydd a'r Fro

Lynda Williams                         Cyfarwyddwr Nyrsio, Cwm Taf

Denise Llewellyn                      Cyfarwyddwr Nyrsio, Aneurin Bevan

 

Siaradwyr

Neil Evans                                Nyrs Adran Achosion Brys, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Kelly Downes                           Rheolwr Gwella Diogelwch Cleifion

 

Aelodau'r Bwrdd

Gaynor Jones                           Cadeirydd

 

Staff Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Tina Donnelly                          Cyfarwyddwr

Peter Meredith-Smith              Cyfarwyddwr Cyswllt (Cysylltiadau Cyflogaeth)

Lynne Hughes                          Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus

John Hoddinott                        Cynorthwy-ydd Polisi a Materion Cyhoeddus


Ymddiheuriadau

Aelodau'r Cynulliad

Bethan Jenkins                         Plaid Cymru

Gwenda Thomas                      Llafur Cymru

David Melding                          Ceidwadwyr Cymreig

Simon Thomas                         Plaid Cymru

Lindsay Whittle                        Plaid Cymru

Edwina Hart                             Llafur Cymru

Gwenda Thomas                      Llafur Cymru

David Melding                          Ceidwadwyr Cymreig

Lynne Neagle                           Llafur Cymru

Huw Lewis                                Llafur Cymru

Carwyn Jones                           Llafur Cymru

Jocelyn Davies                          Plaid Cymru

Vaughan Gething                     Llafur Cymru

Carl Sargeant                           Llafur Cymru

Angela Burns                           Ceidwadwyr Cymreig

Darren Millar                           Ceidwadwyr Cymreig

David Rees                               Llafur Cymru

 

 

Cyfarwyddwyr Nyrsio / Eraill

Caroline Oakley                       Cyfarwyddwr Nyrsio, Hywel Dda

Carol Shillabeer                       Cyfarwyddwr Nyrsio, Powys

Jean White                                Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

Sue Morgan                             Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Nicola Ryley                             Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Aneurin Bevan

Angela Hopkins                       Cyfarwyddwr Nyrsio, Betsi Cadwaladr

 

1.           Croesawodd Rebecca Evans AC bawb i'r cyfarfod.

2.           Cynllunio’r Gweithlu yn y GIG

Cyflwynodd Peter Meredith Smith y sesiwn (mae’r sleidiau ynghlwm).

Trafododd Neil Evans, Nyrs Adran Achosion Brys, a Kelly Downes, Rheolwr Diogelwch Cleifion, y pwysau y mae nyrsys ar y rheng flaen yn eu hwynebu.

Pwyntiau allweddol a drafodwyd yn y fforwm agored:

·         Cafwyd cydnabyddiaeth fod nyrsys yn gweithio'n hynod o galed, ond ei bod yn anodd iddynt roi'r gofal gorau posibl. Mae nifer fawr o gleifion ac mae ganddynt anghenion mwy cymhleth nag erioed.

·         A oes gan y GIG yng Nghymru nifer ddigonol o nyrsys a nyrsys sydd â'r cyfuniad cywir o sgiliau?

·         Mae'n anodd i nyrsys gael cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol yn barhaus (yn enwedig yng Nghymru – gweler canlyniadau arolwg cyflogaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol).

·         Adborth ynghylch byrddau iechyd lleol - mae'r staff sydd i ffwrdd yn sâl, sydd wedi eu hatal rhag gweithio neu sy'n fyfyrwyr nyrsio wedi'u cynnwys yn ffigurau swyddogol y byrddau iechyd lleol o'r 'nyrsys sy'n gweithio' .

·         Mae angen i ni edrych ar ddibyniaeth y cleifion ar y ward / yn yr adran yn hytrach na dim ond ar nifer y nyrsys. Ni ddylai'r nifer isaf o nyrsys sydd eu hangen fod yn rhif safonol cyffredin. Mae angen i arweinwyr nyrsys allu defnyddio eu barn broffesiynol a gofyn am ragor o staff os bydd angen. Mae angen i'r nyrsys sy'n gyfrifol am wardiau gael y gallu i redeg eu wardiau.

·         Defnyddio staff sy'n perthyn i asiant neu gronfa staff - nodwyd bod staff dros dro yn gallu mynd i'r afael ag anawsterau staffio yn y tymor byr. Cafwyd cydnabyddiaeth fod anfanteision sylweddol i ddibynnu ar staff dros dro yn yr hirdymor, gan gynnwys costau uwch a bod y staff dros dro yn anghyfarwydd ag amgylchedd y ward, ei gleifion a'r staff parhaol.

 

·         Mae'r gost i nyrsys unigol o ganlyniad i bwysau llwyth gwaith yn bwysig. Nodwyd, ar hyn o bryd, ein bod yn caniatáu i'n nyrsys orweithio.